Y Brif Neuadd
Gall y Brif Neuadd eistedd hyd at 120 o bobl. Mae seddi hefyd ar y balconi (y gellir ei gyrraedd o’r cyntedd) ar gyfer 30 o bobl gyda golygfeydd o’r Brif Neuadd a’r Llwyfan.
Mae’n addas ar gyfer cyngherddau, cynadleddau, gweithdai, dawnsfeydd, disgos, pantomeimiau, sioeau ffasiwn ac yn 2009 cawsom ein priodas gyntaf.
Mae’r llawr derw ysig yn ddelfrydol ar gyfer dawnsio o bob math, cadw’n heini, ioga ac ati.
Mae Ystafell Storio ger y neuadd er mwyn cael gafael ar gadeiriau gwledda a byrddau yn hwylus.
Mae gan y Neuadd systemau goleuo a sain proffesiynol, gan gynnwys dau feicroffon hirbell a thri meicroffon cebl.