Gwirfoddoli/Cymynroddion

Gwirfoddoli

Os hoffech chwarae mwy o ran yn rhedeg y Neuadd rydym wastad yn croesawu aelodau newydd.

Efallai fod gennych awr rydd bob hyn a hyn ac y byddech yn fodlon helpu’r tîm i ofalu am yr Ardd a’r Neuadd – glanhau, tacluso o gwmpas y Neuadd, torri’r gwair, tocio’r llwyni, gwaith atgyweirio bob hyn a hyn?  Neu efallai y byddai’n well gennych ein helpu gyda’r arlwyo ar gyfer rhai o’n bwffes neu helpu mewn digwyddiadau codi arian, neu gynnig help llaw gyda thasgau gweinyddol – rhowch wybod, byddem yn falch iawn o glywed gennych.

Os oes gennych ddiddordeb cysylltwch â ni trwy e-bost neu ar y dudalen gyswllt uchod neu ffoniwch neu ysgrifennwch atom yn y cyfeiriad isod.

Cymynroddion

Mae cymynrodd yn un o’r rhoddion mwyaf personol y gall unrhyw un eu gadael ac mae’n gwbl briodol ein bod yn meddwl gyntaf am y sawl sydd agosaf atom. Fodd bynnag, mae llawer o bobl hefyd yn dewis gadael rhywbeth i achos neu sefydliad sy’n golygu rhywbeth arbennig iddynt.

Bu’r Neuadd Les yn gwasanaethu cymuned Pontiets a’r cylch am 72 o flynyddoedd. Gobeithiwn eich bod chi neu aelod o’ch teulu wedi elwa o’i chyfleusterau dros y blynyddoedd. Mae’r Neuadd Les wedi cynnig cartref i lawer o grwpiau/clybiau/cymdeithasau a fu’n weithgar ers cymaint o flynyddoedd.

Cymdeithas Les Pontiets
Y Neuadd Les
Heol y Meinciau
Pontiets,
Llanelli SA15 5TR                 Ffôn:- 01269 860966