Amdanom Ni

Codwyd y Neuadd Les yn 1938.  Cafodd ei rheoli gan Bwyllgor gwirfoddol fyth ers hynny.

Cadeirydd- Mr Ellis Jenkins
Is Gadeirydd – Cyng Tyssul Evans
Ysgrifennydd a Trysorydd- Mrs Angela Frewin

Aelodau’r Pwyllgor

Mrs Delyth Lewis, Mr Howard Jones, Mrs Jennifer Rees, Mrs Rosemary Rowlands, Mrs Ann Steel, Mr David Williams

 

Cynhelir Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol bob blwyddyn (ym mis Gorffennaf fel arfer) pan mae swyddogion ac Ymddiriedolwyr yn cael eu henwebu a’i hailethol. Mae’r Pwyllgor yn cynnal cyfarfodydd misol i drafod y gwaith cyffredinol o redeg y Neuadd.

Rydym yn cyflogi Mrs Maria Sanderson sy’n gofalu am y Neuadd o ddydd i ddydd. Hi hefyd sy’n gofalu am y dyddiadur wythnosol a’r archebion. Gallwch gysylltu â Maria ar ffôn y Neuadd ar 01269 860966 neu e-bostiwch ni trwy ddefnyddio’r dudalen gyswllt uchod.

Rydym yn cynhyrchu incwm trwy logi ein cyfleusterau a thrwy godi arian. Rydym yn cael grantiau gan Gynghorau lleol ar gyfer prosiectau cyfalaf a refeniw.

Mae’r Neuadd yn cael ei rheoli diolch i waith caled ac ymdrechion dyfal (yn aml yn ddyddiol) gan aelodau’r Pwyllgor.

I gloi ac ar ran y Neuadd, hoffai’r Ymddiriedolwyr a’r Pwyllgor Rheoli ddiolch i’w holl ddefnyddwyr a chefnogwyr am eu cefnogaeth barhaus.

Manylion cyswllt ar gyfer y Neuadd:-

Cymdeithas Les Pontiets
Y Neuadd Les
Heol y Meinciau
Pontiets,
Llanelli
SA15 5TR

Ff: 01269 860966            neu danfonwch e-bost trwy ddefnyddio’r dudalen Gyswllt uchod.