Y Gegin/Ystafell 1

Mae gan y Gegin yr holl gyfleusterau angenrheidiol: ffwrn drydan, peiriant golchi llestri, oergell, dwy sinc a digon o arwynebau gweithio. Mae digon o gwpanau, soseri, platiau, gwydrau ar gyfer digwyddiadau o bob math (100 o bobl).

Gellir defnyddio’r Gegin hefyd yn ystafell gyfarfod. Mae ganddi fwrdd cyfarfodydd allai eistedd hyd at 12 o bobl.  Mae bwrdd marcio gwyn ar un wal ar gyfer gwersi (gellid ei ddefnyddio hefyd gyda thaflunydd).