Y Llyfrgell

Mae Llyfrgell Gyhoeddus Pontiets, sydd mewn ystafell ym mlaen y Neuadd, ar agor ar ddydd Mawrth a dydd Gwener 10.00-12.00 a 3.00-5pm.

Mae ganddi gyflenwad da o lyfrau (Cymraeg a Saesneg) y gellir eu benthyca am bythefnos. Mae’r Llyfrgell hefyd yn cynnwys y Ganolfan Gyfrifiadurol. Gellir defnyddio’r cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd yn rhad ac am ddim.