Ystafell Cyn-Ysgol/Ystafell 2
Defnyddir yr ystafell hon bedwar bore’r wythnos gan y Mudiad Ysgolion Meithrin, ond mae hefyd yn addas ar gyfer gweithdai (gall hyd at 20 o bobl eistedd o gwmpas dau fwrdd) neu gellir ei defnyddio ar gyfer cyfarfodydd (hyd at 25 o bobl ar ffurf cynhadledd).