Adroddiad Blynyddol 2009-2010

Aeth y gwaith o redeg a rheoli’r Neuadd yn effeithiol yn ei flaen diolch i waith caled ac ymdrechion dyfal gwirfoddol yr Ymddiriedolwyr. Roedd hynny’n golygu fod llawer o’r Ymddiriedolwyr a’r Gofalydd/Glanhaydd yn gorfod bod yn y Neuadd bob dydd.

Yn ystod y flwyddyn roedd y gweithgareddau canlynol yn mynd yn eu blaenau neu wedi cael eu cwblhau.

1. Strategaeth – aeth y gwaith o weithredu’r strategaeth yn ei flaen, sef sicrhau cymaint o ddefnydd â phosib o’r Neuadd.

Cafwyd cynnydd yn nifer y grwpiau oedd yn defnyddio’r Neuadd ac roedd yr Ymddiriedolwyr yn falch o fod yn llogi’r cyfleusterau i ugain o fudiadau yn y pentref yn rheolaidd. Roedd y Neuadd yn parhau i gael ei defnyddio ar gyfer cyngherddau a chynadleddau, a gellir darparu bwffe os gofynnir am hynny. Llogwyd y Neuadd ar gyfer ei derbyniad priodas cyntaf erioed, ac yn dilyn llwyddiant yr achlysur hwnnw bydd yr Ymddiriedolwyr yn gobeithio marchnata’r Neuadd ar gyfer rhagor o achlysuron tebyg yn y dyfodol.

2. Cynllun Busnes – aeth y gwaith o weithredu’r cynllun busnes yn ei flaen.

3. Caffi Cymunedol – mae’r Caffi’n parhau i gael ei osod i unigolyn preifat sy’n ei redeg yn unol â gofynion y Gymdeithas. Mae’r Tenant newydd yn ddibynadwy ac effeithlon ac mae’n darparu gwasanaeth rhagorol i’r gymuned.

4. Gardd Gymunedol – mae pentrefwyr wedi parhau i ddefnyddio’r ardd gerllaw’r Neuadd yn fan cyfarfod. Roedd yn lleoliad gwych ar gyfer y derbyniad priodas ac roedd yn gyfleus ar gyfer digwyddiadau mawr gan fod ymwelwyr yn gallu mynd allan i ymlacio dros egwylion coffi mewn awyrgylch hyfryd.

5. Ailaddurno – mae angen ailaddurno’r Neuadd ac mae’r Ymddiriedolwyr wrthi’n ceisio cael grantiau i helpu gyda chost gwaith o’r fath, a’r gobaith yw y bydd yn cychwyn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

4. Cyfansoddiad – erbyn hyn mae’r Gymdeithas yn cael ei llywodraethu gan Gynllun y Comisiwn Elusennau dyddiedig 14 Ionawr 2009.

Sylwadau i Gloi

I gloi ac ar ran y Neuadd, hoffai’r Ymddiriedolwyr a’r Pwyllgor Rheoli ddiolch i’w holl ddefnyddwyr a chefnogwyr am eu cefnogaeth barhaus.

Yn ystod y flwyddyn dan sylw gwnaethpwyd colled weithredol o £1,131, ar ôl cymryd yn ôl i ystyriaeth y tâl dibrisiant am y flwyddyn, sêff £1,173, a chafwyd cynnydd bychan yn yr asedau net i £5,292.