Priodasau
Gellir llogi Neuadd Les Pontiets ar gyfer brecwastau priodas. Mae’r brif neuadd yn ddelfrydol ar gyfer eistedd gwesteion o gwmpas byrddau a dawnsio/adloniant. Mae gennym fyrddau crwn a phetryal mawr a chadeiriau clustog cyfforddus. Mae’r system sain yn gyfleuster rhagorol ar gyfer yr areithiau hollbwysig a’r gerddoriaeth yn hwyrach yn y nos. Mae’r gegin yn cynnwys yr holl offer angenrheidiol, gan gynnwys peiriant golchi llestri a ffwrn drydan. Mae’r Ardd Gymunedol gerllaw’r Neuadd yn llecyn hyfryd ar gyfer eistedd ac ymlacio.
Yn y briodas ddiwethaf yn y Neuadd cyflogwyd cwmni allanol i ddarparu bar, a phryd tri chwrs a bwffe gyda’r nos.
Codwyd pabell fawr hefyd ar y tir glas yng nghefn y Neuadd.
Er mwyn cael mwy o fanylion ffoniwch y Neuadd ar 01269 860966 neu e-bostiwch trwy ddefnyddio’r dudalen Gyswllt uchod.