Afancod

Rydyn ni’n cwrdd bob nos Lun (yn ystod tymor ysgol) rhwng 6pm-7pm.  Mae angen i blant fod rhwng 6-8 oed.  Mae’r gweithgareddau’n cynnwys cael hwyl, gwneud ffrindiau, chwarae gemau a gweithio i gael bathodynnau.   Y gost yw £2 y sesiwn.

Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys cysgu oddi cartref dros nos, cerdded a gwersylloedd ardal.

Dechreuodd yr Afancod yn 2010 ac mae’r niferoedd yn cynyddu’n dda.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Aneurin Heath 07940 343829  neu Ralph Stephens 07850 758828 or 01267 267428 neu e-bostiwch y Neuadd a bydd eich manylion yn cael eu pasio ymlaen.