Crwydrwyr

Mae Crwydrwyr 1af Pontiets yn cwrdd pob nos Iau yn y Neuadd rhwng 6.30pm a 8.30pm (yn ystod tymhorau ysgol).  Grŵp oed 14 i 25 oed.  Cost £1.50.

Mae gennym awyrgylch ymlaciol ac mae’r merched yn cymryd perchnogaeth o’u cyfarfodydd ac yn trefnu a chynnal gweithgareddau. Rydym hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau’r tu allan i gyfarfodydd fel cerdded, gwersylla, dringo a rhedeg rhaglen Dug Caeredin.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Lucy Hofton ar 07881 715004 neu e-bostiwch y Neuadd a bydd eich manylion yn cael eu pasio ymlaen.