Cor Merched Glannau’r Gwendraeth

Mae’r Côr yn cwrdd bob nos Fawrth yn y Neuadd am 7.30pm ar gyfer ymarferion.

Mae’r Côr yn canu caneuon ac arddulliau amrywiol yn Gymraeg a Saesneg.

Mae’r Côr yn cynnal cyngerdd blynyddol yn Neuadd y Pentref ac mae hefyd yn perfformio mewn nifer o ganolfannau lleol eraill (Parc Howard, Capeli, Eglwysi, Neuaddau a Chartrefi Henoed).  Yn 2009 gofynnwyd iddynt ganu yn eu priodas gyntaf!

Maent wedi bod ar sawl taith, gan gynnwys Sbaen.

Eu Cyfarwyddydd Cerdd yw Mrs Margaret Morgan a’u Cyfeilydd yw Mr Geraint Rees.

Cyswllt:- Mrs Delyth Thomas (Ysgrifennydd) 01269 860883