Sefydliad y Merched

Mae Sefydliad y Merched Pontiets yn cwrdd ar nos Iau gyntaf pob mis am 7.00pm.  Mae croeso mawr i unrhyw un 16 oed a throsodd ddod draw.

Cawn gyfarfodydd misol er mwyn cymdeithasu a chael gwahanol siaradwyr. Mae gennym weithgareddau o bob math. O grefftau, helfeydd trysor, chwaraeon, cwisiau, teithiau cerdded ac ymweliadau â lleoedd diddorol. Rydym hefyd yn ymgyrchu ar faterion pwysig iawn er mwyn gwella bywyd i bawb.  Y gost yw £30.00 y flwyddyn.

Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys cwrdd â Sefydliadau y Merched eraill ar gyfer nosweithiau o hwyl.

Daeth Sefydliad y Merched o Stoney Creek, Canada.  Ffurfiwyd cangen gyntaf Sefydliad y Merched yng ngwledydd Prydain yn 1915 yn  Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch.  Ffurfiwyd Sefydliad y Merched yn 1959 a chynhaliodd ei gyfarfodydd yn Neuadd Lesiant y Glowyr Pontiets fyth ers hynny.

Cysylltwch â Jennifer Williams ar 01269 861788 neu e-bostiwch y Neuadd a bydd eich manylion yn cael eu pasio ymlaen.