CISWO

Mae ein Grŵp Cymdeithasol ar gyfer yr Henoed yn cwrdd yn y Neuadd ar ddydd Llun cyntaf pob mis rhwng 2.00-4.00pm.  Cost £1.

Rydym yn cael gweithgareddau o bob math, o gwisiau a bingo i wrando ar siaradwyr a gwneud ymarferion ysgafn. Dros y misoedd diwethaf cafodd y grŵp nifer o siaradwyr gwahanol, gan gynnwys Menter Cwm Gwendraeth, Wiltshire Farm Foods a Dennis Fox o Age Concern.  Mae gan y grŵp aelodau o Gydweli, Crosshands a Gorslas yn ogystal â Phontiets a Phontyberem.  Mae croeso i aelodau newydd ymuno â’r grŵp.

Rydym hefyd yn mynd allan am brydau bwyd adeg y Nadolig a theithiau yn yr Haf. Y llynedd cafodd y grŵp daith ddifyr i Weston Super Mare a buom hefyd ym mharti Haf CISWO ym Mhafiliwn Porthcawl.

Daeth Grŵp Pontiets at ei gilydd yn dilyn taith dydd ym mis Medi 2008 i Ganolfan Siopa McArthur Glen a Phorthcawl.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Aimee Hopkins yn CISWO (Cymdeithas Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo) ar 01443 485233 neu e-bostiwch y Neuadd a bydd eich manylion yn cael eu pasio ymlaen.