Brownies

Mae Brownies 1af Pontiets yn cwrdd pob nos Iau yn y Neuadd rhwng 5.00pm a 6.30pm (yn ystod tymhorau ysgol). Y gost yw £1.50 yr wythnos. Ar gyfer plant 7 i 11 oed – cyfle i gael hwyl, gwneud ffrindiau, chwarae gemau, gwaith crefft, gweithio er mwyn cael bathodynnau.

Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys ymuno â Grwpiau Brownies eraill mewn digwyddiadau Ardal, Adran a Sirol. Rydym hefyd yn mynd allan ar deithiau dydd ac yn trefnu gwyliau grŵp.

Sir Gaerfyrddin oedd y Sir gyntaf yng Nghymru i ddechrau geidio. Cychwynnwyd y mudiad gan y Fonesig Baden-Powell.  Mae’n fudiad rhyngwladol.

Cysylltwch â Jennifer Williams ar 01269 861788 neu e-bostiwch y Neuadd a bydd eich manylion yn cael eu pasio ymlaen.