Clwb Gwawr y Gwendraeth

Y Clwb Gwawr cyntaf yng Nghymru!

Fel arfer byddwn yn cyfarfod yn nhafarn Y Sgwar a Chwmpawd, Pontyates os nad oes  gweithgaredd wedi ei drefnu y tu allan . Mae’r cyfarfodydd  a’r gweithgareddau yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y gymraeg. Mae croeso yno i ddysgwyr gan rhoi pob cyfle iddynt i sgwrsio yn y gymraeg.

Mae rhai o’r gweithgareddau blaenorol yn cynnwys:-

Partion gemwaith a chyfnewid.

Arddangosiadau coginio , colur ,Saris, clwtwaith .

Cystadleuaeth addurno cacennau, blasu gwin, dawnsio llinell, teithiau cerdded, ymweliadau i  San Ffagan, Llanerchaeron,’Tumble Forge’, DarlIthIau ar y gymuned Amish, menter busnesi bach, hanes lleol,Traddodiadau caru cymreig, nosweithiau mewn gigs cymraeg neu ‘r theatr ,trip hâf, nosweithiau allan mewn tai bwyta, cwis.

Ymweliad i’r Bingo a Ffoslas, Saethyddiaeth.

Rhywbeth at ddant pawb. Cwmni da. Llawer o hwyl.  Rydyn ni o hyd yn agored i syniadau.

Pris:- £15.00 punt y flwyddyn.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth cysylltwch √¢ Pat Tillman ar 01269 861922 neu e-bostiwch y Neuadd a bydd eich manylion yn cael eu pasio ymlaen.