Sgowtiaid Awyr

Mae Sgowtiaid Awyr Cym Gwendraeth yn cwrdd bob nos Lun (yn ystod tymor ysgol) rhwng 7pm-8.30pm.  Mae angen i blant fod rhwng 10 oed 6 mis a 14 oed 6 mis.  Y gost yw £2.00 y sesiwn.

Mae’r gweithgareddau’n cynnwys gweithio i gael bathodynnau gweithgareddau. Rydyn ni hefyd yn mynd i wersylla ac yn cymryd rhan mewn saethyddiaeth, saethu  â reiffl, cerdded a hedfan.

Mae’r Sgowtiaid Awyr yn dathlu eu 70ain Pen-blwydd yn 2011.

Er mwyn cael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Aneurin Heath ar 07970 343829 neu e-bostiwch y Neuadd a bydd eich manylion yn cael eu pasio ymlaen.