Rainbows

Mae Rainbows yn cwrdd bob nos Fawrth 5.00-6.00pm (yn ystod tymor ysgol).  Y gost yw £2.50 sy’n cynnwys yswiriant ar gyfer pob plentyn.

Rainbows yw aelodau ieuengaf y mudiad Geidio, ar gyfer merched 5 i 7 oed. Rydym yn fudiad lifrai i ferched sy’n gweithio ym mhob rhan o’r byd. Rydyn ni’n dilyn rhaglen o’r enw Edrych Dysgu Chwerthin Caru. Mae Rainbows yn cael hwyl, chwarae gemau, cael partïon a gwneud pethau tra’n dysgu sgiliau bywyd. Mae Geidio ar gyfer merched o bob cefndir, gallu a chenedl. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Rosemary Rowlands ar 01269 860922 neu 07811 120192 neu e-bostiwch y Neuadd a bydd eich manylion yn cael eu pasio ymlaen.