Grwp Hanes Lleol
Mae’r Grŵp Hanes Lleol yn cwrdd ar nos Fercher olaf pob mis. Mae’r sesiwn yn parhau rhwng 10am a 12 ganoldydd. Yn aml iawn gwahoddir siaradwyr gwadd ac rydym hefyd yn trefnu ambell daith.
Yn ddiweddar cafodd y Grŵp arian gan Gyngor Sir Caerfyrddin sydd wedi’n galluogi i gomisiynu archwiliad treftadaeth o’r ardal, DVD o atgofion lleol a phamffledi lliwgar yn dangos prif atyniadau hanesyddol y cylch. Mae’r Grŵp yn gobeithio rhoi’r deunydd o’r archwiliad ar gronfa ddata a rhannu’r wybodaeth yn lleol ac yn genedlaethol.
Cyswllt: Ruth Morgan (Cadeirydd) 01269 860454 neu e-bostiwch y Neuadd a bydd eich manylion yn cael eu pasio ymlaen.