Gyrfeydd Chwist
Cynhelir Gyrfeydd Chwist yn y Neuadd bob nos Wener am 7.30pm.
Fel arfer mae deg bwrdd a 40 o bobl yn chwarae gêm gyfeillgar a digonedd o chwerthin a hwyl. Mae’n noson gymdeithasol hyfryd i bobl o bob oed. Mae te a lluniaeth ar gael yn ystod yr egwyl. Beth am ddod draw – mae croeso i chwaraewyr newydd unrhyw bryd.
Manylion cyswllt – Tyssul Evans 01554 810396 neu e-bostiwch y Neuadd a bydd eich manylion yn cael eu pasio ymlaen.