CISWO
Mae ein Grŵp Cymdeithasol ar gyfer yr Henoed yn cwrdd yn y Neuadd ar ddydd Llun cyntaf pob mis rhwng 2.00-4.00pm. Cost £1.
Rydym yn cael gweithgareddau o bob math, o gwisiau a bingo i wrando ar siaradwyr a gwneud ymarferion ysgafn. Dros y misoedd diwethaf cafodd y grŵp nifer o siaradwyr gwahanol, gan gynnwys Menter Cwm Gwendraeth, Wiltshire Farm Foods a Dennis Fox o Age Concern. Mae gan y grŵp aelodau o Gydweli, Crosshands a Gorslas yn ogystal â Phontiets a Phontyberem. Mae croeso i aelodau newydd ymuno â’r grŵp.
Rydym hefyd yn mynd allan am brydau bwyd adeg y Nadolig a theithiau yn yr Haf. Y llynedd cafodd y grŵp daith ddifyr i Weston Super Mare a buom hefyd ym mharti Haf CISWO ym Mhafiliwn Porthcawl.
Daeth Grŵp Pontiets at ei gilydd yn dilyn taith dydd ym mis Medi 2008 i Ganolfan Siopa McArthur Glen a Phorthcawl.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag Aimee Hopkins yn CISWO (Cymdeithas Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo) ar 01443 485233 neu e-bostiwch y Neuadd a bydd eich manylion yn cael eu pasio ymlaen.